
Ysgol Awel y Mynydd
PARCH / TEGWCH / GONESTRWYDD
RESPECT / FAIRNESS / HONESTY
Croeso Cynnes i bawb
Diolch am ystyried Ysgol Awel y Mynydd fel ysgol i'ch plant.
Mae’n bleser gennym rannu gyda chi ychydig o’r hyn y gallwn ei gynnig i’n disgyblion. Hefyd i’ch sicrhau, ar ôl dewis Ysgol Awel y Mynydd i’ch plentyn, y byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau oll mewn bywyd ac yn edrych yn ôl ar eu haddysg gynnar gyda hoffter, hapusrwydd a balchder!
Ein blaenoriaeth yw darparu amgylchedd gofalgar, hapus a diogel i'ch plentyn, gydag ystod eang o brofiadau dysgu sy'n eu galluogi i dyfu'n ddinasyddion annibynnol, cyfrifol yr 21ain Ganrif. Dim ond gyda phartneriaeth agos rhieni y gallwn gyflawni hyn ac anelwn weithio gyda chi er mwyn gwneud hynny.
Dewis Ffrwd Iaith
Rydym yn unigryw yn y Sir ac o bosib yng Ngogledd Cymru gan ein bod yn gallu cynnig dewis iaith i unrhyw deulu ar gyfer dysgu yn Awel y Mynydd. Un ysgol yw ein hysgol ni ond mae gennym ni ddwy ffrwd iaith.
Mae ein ffrwd Gymraeg yn cynnig dwyieithrwydd go iawn. Dwy iaith, dwywaith y dewis, dwywaith y cyfle. Bydd y plant sy’n mynychu’r ffrwd Gymraeg yn cael eu haddysgu yn Gymraeg yr holl ffordd drwy’r ysgol ac mae bron pob plentyn wedyn yn mynychu ein Hysgol Uwchradd Gymraeg - Ysgol y Creuddyn. Bydd y plant yn gadael gyda'r gallu i siarad, ysgrifennu, gwrando a dysgu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd y plant, os ydynt yn parhau i ysgol uwchradd Gymraeg, yn gallu byw a gweithio yng Nghymru a manteisio’n llawn ar unrhyw gyfle a ddewisant.
Mae ein ffrwd Dysgwyr Cymraeg hefyd yn cynnig dwyieithrwydd lle dysgir y Gymraeg fel ail iaith. Dysgir y mwyafrif helaeth o’u pynciau i’r plant trwy gyfrwng y Saesneg a byddant yn dysgu ac yn cael eu trochi mewn Cymraeg bob dydd a chael gwersi Cymraeg i ddatblygu a gloywi eu sgiliau dwyieithog. Mae bron pob un o’n plant yn y ffrwd Dysgwyr yn symud i Ysgol Uwchradd Aberconwy.
Nid oes angen gwneud eich dewis iaith ar unwaith ac nid yw’r iaith rydych yn ei siarad gartref yn effeithio ar eich dewis. Pan ddaw’n amser dewis wrth i’r plant ddod i blwyddyn Derbyn, rydym yma i gefnogi a thrafod eich dewisiadau gyda chi a’r plant. Rydym yma i sicrhau bod y plant yn cyrraedd eu llawn botensial, beth bynnag fo’ch dewis. Byddwn bob amser yn gwrando arnoch, yn eich cefnogi ac yn rhannu ein hysgol gyda chi.
Mae anghenion eich plentyn yn ganolog i’n nodau, ein cynllunio, datblygiad, y gymuned a byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau’r gorau iddyn nhw i gyd!
Diolch yn garedig am gymryd yr amser i edrych ar Ysgol Awel y Mynydd. Cofiwch gysylltu â ni os hoffech drafod eich opsiynau neu ofyn unrhyw gwestiynau.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Ysgol Awel y Mynydd
Diolch yn fawr iawn
Mr Geraint Evans
Pennaeth
Sut i ymuno ein ysgol / How to join our school
Trosglwyddo o ysgol i ysgol / Symud i Gonwy
1. Lawrlwythwch ffurflen neu ei chwblhau ar-lein ar www.conwy.gov.uk/derbyniadau , neu lawrlwythwch Ap Conwy.
2. Cysylltwch a'r Syddog Derbyniadau ar 01492 575031 i wneud cais am gopi papur
Transfer between Schools / Moving into Conwy
1. Dowload a form or complete online at www.conwy.gov.uk/admissions , or download the Conwy App.
2. Contact the Admissions officer on 01492 575031 to request a paper form.
Derbyniadau Medi / September Admissions 2022 - Meithrin / Nursery
SUT I WNEUD CAIS AM LE MEITHRIN MEWN YSGOL / HOW TO APPLY FOR A SCHOOL NURSERY PLACE
1. Lawrlwythwch ffurflen neu ei chwblhau ar-lein ar www.conwy.gov.uk/derbyniadau , neu lawrlwythwch Ap Conwy.
2. Cysylltwch a'r Syddog Derbyniadau ar 01492 575031 i wneud cais am gopi papur
DYDDIADAU PWYSIG
Dyddiad Cau - 17 Chwefror 2023
Rhoir gwybod i rieni am y canlyniad erbyn - 4 Mai 2023
*********************************************
1. Dowload a form or complete online at www.conwy.gov.uk/admissions , or download the Conwy App.
2. Contact the Admissions officer on 01492 575031 to request a paper form.
IMPORTANT DATES
Closing Date - 17 February 2023
Parents informed of outcome by - 4 May 2023


Derbyniadau Medi / September Admissions 2022 - Derbyn / Reception
SUT I WNEUD CAIS AM LE MEWN DOSBARTH DERBYN / HOW TO APPLY FOR A RECEPTION PLACE
1. Lawrlwythwch ffurflen neu ei chwblhau ar-lein ar www.conwy.gov.uk/derbyniadau , neu lawrlwythwch Ap Conwy.
2. Cysylltwch a'r Syddog Derbyniadau ar 01492 575031 i wneud cais am gopi papur
DYDDIADAU PWYSIG
Dyddiad Cau - 18 Tachwedd 22
Rhoir gwybod i rieni am y canlyniad erbyn - 17 Ebrill 2023
*********************************************
1. Dowload a form or complete online at www.conwy.gov.uk/admissions , or download the Conwy App.
2. Contact the Admissions officer on 01492 575031 to request a paper form.
IMPORTANT DATES
Closing Date - 18 November 2022
Parents informed of outcome by - 17 April 2023
.png)
.png)
Contact Us
Ysgol Awel y Mynydd
Sarn Mynach,
Llandudno Junction
LL31 9RZ, UK
01492 577100 / 577103