- nicolajones992
Penwythnos Gymunedol Sŵ Fynydd Gymreig

Sŵ Fynydd Gymreig / Welsh Mountail Zoo
Er mwyn dathlu popeth lleol ac er mwyn diolch i’r gymuned am eu cefnogaeth dros yr 18 mis diwethaf, yn ystod y penwythnos rhwng Medi 18fed a 19eg 2021, rydym yn darparu’r cyfle i breswylwyr sydd â chod post yn dechrau efo LL i ymweld â’r Sŵ am hanner pris!*
Wrth i chi gamu i fyd y Sŵ Fynydd Gymreig, rydych yn camu i fyd o ryfeddodau naturiol. Crwydrwch ar hyd y llwybrau coediog, ymlaciwch ar y llethrau gwyrdd, a threuliwch diwrnod hamddenol braf yn dysgu am sawl rhywogaeth brin sydd mewn perygl, o Brydain ac o bob cwr o’r byd, sydd wedi’u ymgartrefu yn y Sŵ Fynydd Gymreig.
Yn ogystal â’r holl bethau uchod, dyma gyfle i fwynhau’r amrywiaeth eang o weithgareddau arbennig a gynhelir yn ystod y penwythnos hwn yn unig. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch iwww.welshmountainzoo.org
*Amodau a Thelerau ar Gyfer Mynediad Hanner Pris:
- Bydd rhaid archebu tocynnau ar lein o flaen llaw.
- Bydd angen tystiolaeth o gyfeiriad. Derbynwyd trwydded yrru, bil cyfleustod diweddar, bil ffôn neu bil treth cyngor.
- Bydd hanner pris ar gael ar gyfer uchafswm o 6 person o bob cyfeiriad, ac 1 cerbyd o bob cyfeiriad.
- Nid yw’n bosib defnyddio’r cynnig yma ynghlwm ag unrhyw cynnig nag hyrwyddiad arall. Yn ddilys ar 18.09.2021 a 19.09.2021 yn unig.