Cais Gwyliau
Cartref > Gwybodaeth i Rieni > Cais Gwyliau
Cais gan riant/gofalwr am absenoldeb plentyn yn ystod y tymor ysgol. Os ydych yn ystyried bod yn rhaid i chi gymryd gwyliau yn ystod y tymor, a bod gennych amgylchiadau eithriadol, llenwch y ffurflen hon cyn gynted â phosibl. Yn unol â’r Polisi Presenoldeb Disgyblion: ‘Rydym yn diffinio ‘amgylchiadau eithriadol’ fel digwyddiadau untro, na ellir eu hosgoi’. Gweler Adran 5.1 o'r polisi am ragor o wybodaeth am ba absenoldebau y gellir/byddir yn eu hawdurdodi.
Mewn achos o wyliau di-awdurdod, bydd yr Awdurdod Lleol yn cael eu hysbysu o'r gwyliau a gymerwyd a gellid ystyried Rhybudd Cosb Penodedig. Sylwer y gallai cosb o'r fath gael ei gyflwyno i bob rhiant ar gyfer bob plentyn a gymerir o'r ysgol. Rhybudd Cosb Penodedig yw dirwy o £60 sy’n cynyddu i £120 os nad yw'n cael ei dalu o fewn y 28 diwrnod cyntaf. Wedi hyn, os na fydd y gosb yn cael ei thalu, bydd camau cyfreithiol yn cael eu cychwyn yn y Llys Ynadon o dan Adran 444 o Ddeddf Addysg 1996.
Ffurflen Caniatâd Absenoldeb (Gwyliau)