Gweledigaeth a Gwerthoedd

Cartref > Am yr Ysgol > Gweledigaeth a Gwerthoedd

Datganiad Cenhadaeth yr Ysgol

Mae dysgu wrth wraidd popeth a wnawn a thrwy ddisgwyliadau uchel a chwricwlwm dwyieithog arloesol, rydym yn sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni, yn meithrin gwytnwch ac yn datblygu creadigrwydd mewn amgylchedd diogel ac ysgogol.

Gweledigaeth

Yn Ysgol Awel y Mynydd, credwn mewn rhagoriaeth a dymunwn y dyfodol gorau i bob plentyn. Rydym am i blant adael ein hysgol yn barod i oresgyn heriau, byw bywydau boddhaus a gwneud cyfraniad cadarnhaol i Gymru fodern, ddwyieithog.

Tai'r Ysgol 

Mae pob plentyn yn cael ei roi mewn un o'r bedwar tai ysgol:

Blodeudwedd (coch)

Pryderi (gwyrdd)

Gwydion (melyn)

Branwen (glas)

Mae tŷ yn grŵp llai y mae plant yn perthyn iddo ochr yn ochr â'u dosbarth neu flwyddyn, ac mae system y tai wedi'i chynllunio i gefnogi datblygiad personol plant a magu ymdeimlad o berthyn. Cafodd ein tai eu henwi, a dyluniwyd symbolau, trwy gynnal cystadleuaeth i bob disgybl yn ystod 2025/26. Enillwyd hon gan ddisgybl blwyddyn 5. Y briff oedd sicrhau bod y tai yn cyfleu ein balchder o hanes a diwylliant Cymru. Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau yn eu tai, gan gynnwys diwrnodau chwaraeon, cystadlaethau chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol.