Presenoldeb
Cartref > Gwybodaeth i Rieni > Presenoldeb
Presenoldeb Ysgol - Gwybodaeth i Rieni a Gwarchodwyr
Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar rieni i sicrhau bod eu plentyn yn derbyn addysg. Cyflawnir hyn gan rieni wrth sicrhau bod eu plentyn yn dod i'r ysgol bob dydd.
Os yw eich plentyn yn absennol oherwydd salwch, dylech ffonio ar 01492 577100.
Mae absenoldebau oherwydd salwch, y byddwn yn derbyn esboniad amdanynt, yn cael awdurdodi yn y cofrestrau. Mae absenoldebau na chawn unrhyw esboniad amdanynt yn parhau i fod yn absenoldebau anawdurdodedig yn y cofrestrau. Bydd yr Uwch Dîm Arweinwyddiaeth a'r Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd yn ymchwilio i lefelau uchel o absenoldeb anawdurdodedig, diwrnodau i ffwrdd rheolaidd, neu gyfnodau o absenoldeb. Mae’n bosibl y gofynnir i rieni ddod am gyfarfod i egluro lefelau uchel iawn o absenoldeb. Gallant fod mewn perygl o gael eu herlyn am fethu â dod â’u plentyn i’r ysgol yn rheolaidd a allai arwain at ddirwy gan yr Awdurdod Lleol.
Mae rhieni weithiau yn gofyn i'r Pennaeth awdurdodi absenoldebau ar gyfer gwyliau teuluol. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac oherwydd lefelau annerbyniol o uchel o absenoldebau disgyblion yn y blynyddoedd ysgol diwethaf, mae’r Llywodraethwyr wedi dweud nad oes unrhyw absenoldeb gwyliau yn cael ei awdurdodi. Mae’r ysgol ar gau am gyfnod digonol o amser bob blwyddyn i deuluoedd wneud trefniadau i gymryd gwyliau fydd ddim yn effeithio ar addysg eu plant. Gall rhieni sy'n cymryd cyfnod o absenoldeb anawdurdodedig wynebu dirwy gan yr Awdurdod Lleol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at ein Polisi Presenoldeb a'r gwybodaeth bellach am salwch plentyndod cyffredin: