Diogelu

Cartref > Gwybodaeth i Rieni > Diogelu

Diogelu

Yn Ysgol Awel y Mynydd rydym eisiau i bob plentyn deimlo'n ddiogel, hapus a sicr pan ddônt i'r ysgol. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pob plentyn. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau amgylchedd lle gall pob plentyn nodi oedolion y gellir ymddiried ynddynt a fydd yn gwrando ar unrhyw bryderon sydd ganddynt. Mae ein tîm diogelu a chymorth i deuluoedd yn darparu ystod o wasanaethau i blant a theuluoedd.

 

Polisi Diogelu Plant

ThinkUKnow

Diogelwch Ar-lein

Mae'r rhyngrwyd wedi newid ein bywydau i gyd ac i rieni a gwarchodwyr mae hyn yn agor byd hollol newydd o bethau i fod yn ymwybodol ohono. Mae gwefan ThinkuKnow yn ddefnyddiol ac yn cynnig llawer o awgrymiadau ymarferol ac arweiniad syml. Cliciwch y llun am fwy o wybodaeth. 

Wefan NSPCC

Canllawiau Diogelu Rhwydweithiau Cymdeithasol i Rieni

Mae 'Net Aware' yr NSPCC yn rhoi arweiniad i rieni ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol, apiau a gemau y mae plant yn eu defnyddio a sut i gadw plant yn ddiogel yn y byd digidol. Clickiwch uchod am fwy o wybodaeth. 

 

Rhannu Pryderon

Os ydych chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod yn poeni am y ffordd y mae rhywun wedi bod yn cyfathrebu â chi ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod a fydd yn mynd â chi i wefan CEOP.

CEOP - Gwnewch Adroddiad